Addewid Cydraddoldeb
Rydym yn credu mewn gweithio tuag at greu gweithle cynhwysol, teg ac amrywiol, gan ddangos ein hymrwymiad i unrhyw weithwyr y byddwn yn eu cyflogi yn y dyfodol a’r gymuned ehangach, tra’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb.
Drwy ymrwymo i’r Addewid Cydraddoldeb, byddwn yn cymryd camau a fydd yn helpu i wella ein harferion cydraddoldeb a chyfleu’r ymrwymiad hwnnw i’n cymuned, gan gynnwys:
- Hyrwyddo a darparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysol
- Cydnabod a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg
- Hysbysebu swyddi gwag yn eang er mwyn ehangu'r ystod o ddarpar ymgeiswyr
- Cofrestru fel cyflogwr Cyflog Byw achrededig
- Cofrestru fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
- Mabwysiadu llawlyfr staff a gweithredu gwerthusiadau staff rheolaidd
- Gofyn i gyflenwyr am gopi o'u Polisi Cyfle Cyfartal
Darllen pellach: www.businesswales.gov.wales/equality-pledge