Fairtrade

Masnach Deg


System ardystio yw Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bod set o safonau'n cael eu bodloni wrth gynhyrchu a chyflenwi cynnyrch neu gynhwysyn. I ffermwyr a gweithwyr, mae Masnach Deg yn golygu hawliau gweithwyr, amodau gwaith mwy diogel a chyflog tecach. I siopwyr mae'n golygu cynhyrchion o ansawdd uchel, wedi'u cynhyrchu'n foesegol.

Mae dewis Masnach Deg yn golygu sefyll gyda ffermwyr dros degwch a chydraddoldeb, yn erbyn rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae’n golygu bod ffermwyr yn creu newid, o fuddsoddi mewn technegau ffermio sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd i ddatblygu menywod mewn arweinyddiaeth.

Gyda Masnach Deg rydych chi'n newid y byd ychydig bob dydd. Trwy ddewisiadau siopa syml rydych chi'n dangos i fusnesau a llywodraethau eich bod chi'n credu mewn masnach deg a chyfiawn.